Cartref > Digwyddiadau

Digwyddiadau


Rydym yn trefnu sawl digwyddiad ad-hoc mewn lleoliadau cymunedol, mewn partneriaeth â chymdeithasau tai i ddod â'r cymunedau at ei gilydd i gymdeithasu dros baned. Cynhelir digwyddiadau hefyd o fewn cartrefi gofal lleol.

  • Digwyddiadau thematig - i ddathlu dyddiau arbennig gan gynnwys Dydd Santes Dwynwen, Dydd Gŵyl Dewi ac Wythnos Ymwybyddiaeth Dementia.
  • Gigs Cerddoriaeth Byw – dewch i'n prynhawniau cerddoriaeth mewn lleoliadau gwahanol lle darperir adloniant gan ddoniau lleol gan gynnwys sesiynau cerddoriaeth canu gwlad gan Dylan a Neil.
  • Pontio’r Cenedlaethau - rydym yn caru dod â'r to iau a'r to hŷn at ei gilydd yn nifer o'n digwyddiadau lle rydym yn cysylltu gyda ysgolion lleol.
  • Bore Coffi - cyfle i gwrdd ag eraill mewn lleoliad cymdeithasol anffurfiol a mwynhau paned a chacen.
  • Digwyddiadau Codi Arian - teithiau coffa blynyddol a gigs elusennol.
  • Sioeau Hud a Lledrith a mwy.

Dyddiadau digwyddiadau cymunedol sydd ar y gweill: