Cartref > Amdanom

Amdanom


Mae Gwenda Hughes, perchennog Ffeind Cyf yn siaradwraig Gymraeg rugl, wedi ei geni a’i magu yn ardal  Dyffryn Nantlle. Mae’n berson gofalgar a deinamig sydd ag arbenigedd helaeth mewn arwain a rheoli gwasanaethau cefnogi ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngwynedd. Mae’n angerddol am wneud gwahaniaeth i fywydau unigolion o bob oed sy’n byw yng Ngwynedd. Mae dementia yn agos at galon Gwenda, gan bod ganddi brofiad personol a phroffesiynol o gefnogi pobl sy’n byw gyda dementia. Mae Ffeind Cyf yn sefydliad dementia-gyfeillgar.

Mae Gwenda, sy’n cael ei hystyried yn berson allweddol o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol yng ngogledd Gwynedd, wedi lansio a datblygu gwasanaethau penodol ar gyfer unigolion yn y sir. Mae Gwenda yn mwynhau gweithio gydag unigolion yn y gymuned, ac fel arweinydd gweithgar ymaerferol, bydd yn darparu cefnogaeth wedi ei deilwra yn arbennig i unigolion yn wythnosol ac yn rheoli tîm o Weithwyr Cefnogol.

Mae Ffeind wedi’i ysbrydoli gan ddau berson arbennig iawn ym mywyd Gwenda. Yn gyntaf, Gwyneth, mam Gwenda. Mae hyn oherwydd ei charedigrwydd, a pha mor ffeind ydi hi gyda Gwenda a phawb sy’n ei hadnabod. Yn Gymraeg, mae Ffeind yn air annwyl am ’caredig’. Yr ail ysbrydoliaeth oedd Iolo, y person cyntaf i dderbyn cymorth gan Gwenda. Roedd Iolo’n byw gyda dementia, ac fe wnaeth yr amser a dreuliodd Gwenda yn ei gwmni ei hysgogi i   ddatblygu gwasanaeth dementia-gyfeillgar yng ngogledd Gwynedd.

Mae profiadau blaenorol Gwenda wedi bod ym maes twristiaeth a lletygarwch, gwerthu a marchnata, yn lleol ac yn rhyngwladol. Yn ystod y 12 mlynedd diwethaf mae Gwenda wedi symud i weithio i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae wedi gweithio i nifer o elusennau cenedlaethol gan gynnwys Cymdeithas Alzheimer’s.